Beth am gymryd rhan yng nghystadleuaeth golff yr Eisteddfod, ddydd Mercher 9 Awst yng Nghlwb Golff Nefyn?
Dyma un o'r clybiau harddaf yng Nghymru, gyda golygfeydd godidog o arfordir Llŷn, a chwrs sy'n cynnig rhywbeth i bawb.
Mae cystadleuaeth golff yr Eisteddfod yn gyfle i ddod i adnabod a rhoi tro ar gyrsiau golff ar hyd a lled Cymru yn flynyddol, mewn awyrgylch gyfeillgar a hwyliog.
Mae amseroedd 'tee' yn cychwyn rhwng 08:00 a 16:00, a gellir archebu eich amser ar wefan y clwb yma.
O ran fformat, mae'n gystadleuaeth 'stableford' dynion a merched ar gwrs Pencampwriaeth 18-twll. 'Does dim gofynion mynediad, ond mae angen i chwaraewyr gael rhif CDH ar gyfer handicap. Pris cystadlu: £20.
Cyfeiriad y clwb yw Lôn Golff, Nefyn LL53 6DA.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn Nefyn am gêm o golff!